Cwrw'r Grefft

Bragdy annibynnol ydan ni yn cynhyrchu detholiad o gwrw llawn blas a chymeriad. Boed wrth fragu cwrw chwerw, lliw haidd neu gwrw ysgafn, golau, rydym yn rhoi amser a chwarae teg i'r grefft. Hyn i gyd er mwyn i'r cwsmer gael amser da!

Ysbrydoliaeth

Llŷn yw'r lle sy'n cyflwyno'r diriogaeth, y chwedlau, y cymeriadau a'r enwau i'n cwrw. Dyma gwrw cariad go iawn! Ochr yn ochr â chynnyrch ardderchog môr a thir y penrhyn hwn, mae'r cwrw'n rhan o'r profiad bellach.

Gogledd Cymru

Mae'r bragdy yn Nefyn, tref hanesyddol yn Llŷn sy'n enwog am ei chysylltiadau â'r môr. Yn ogystal â Llywbr yr Arfordir, mae'r fro yn frith o lwybrau sy'n crwydro mynyddoedd yr Eifl, bro'r chwareli ithfaen a phorthydd y glannau – a dyma ardal llwybr y pererinion am Enlli, wrth gwrs.